Heddiw rydyn ni’n falch o lansio platfform Student Space, sydd wedi’i ddatblygu i gefnogi myfyrwyr i fyw eu bywydau yn y brifysgol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Gyda diwrnod canlyniadau Safon Uwch (dydd Iau 13 Awst) yn drobwynt heriol ar galendr academaidd myfyrwyr, bydd y rhaglen newydd yn darparu cefnogaeth amrywiol sydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr, ym mhob cam o’u siwrnai addysg uwch. Cyhoeddodd y Gweinidog Prifysgolion ddiwedd mis Mehefin y byddai Student Minds yn goruchwylio’r rhaglen 6 mis, sy’n cael ei chyllido gan Office for Students (OfS) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’n deg dweud bod y saith wythnos ddiwethaf wedi hedfan heibio! Diolch i gydweithredu aruthrol, llawer iawn o waith caled, a digon o ddatrys problemau yn greadigol, rydyn ni’n hynod falch bod y platfform ar y we yn fyw nawr ac ar gael i bob un o’r 2.3 miliwn o fyfyrwyr sy’n astudio ar raglenni Addysg Uwch ledled Cymru a Lloegr. Beth sy’n rhan o Student Space ar hyn o bryd? Nod Student Space yw gwneud bywyd yn haws i fyfyrwyr ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnyn nhw ei hangen yn ystod pandemig y coronafeirws, gyda gwybodaeth ddibynadwy, adnoddau ar-lein ac adnoddau i gefnogi myfyrwyr ble bynnag maen nhw gyda’u llesiant a’u hastudiaethau. Edrychwch ar y safle am gyfarwyddyd ar ddysgu ar-lein, delio â phrofedigaeth a gwneud ffrindiau o bell – sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u comisiynu ar gyfer myfyrwyr sy’n teimlo’n ofidus neu dan bwysau efallai, gan gynnwys llinell gymorth dros y ffôn a chefnogaeth drwy negeseuon testun, a hefyd mynegai sy’n cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau yn eu man astudio. Bydd yr adnoddau hyn yn cynyddu ac yn cael eu gwella i ddiwallu anghenion myfyrwyr fel maen nhw’n datblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod. Diolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda ni Mae Student Space yn ganlyniad llawer o waith caled a chydweithredu rhwng nifer o sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hoffem fynegi ein diolch i’r cannoedd o bobl sydd wedi gweithio gyda ni eisoes ar y rhaglen yma a chwarae eu rhan yn y gwaith o’n helpu ni i gyflawni hyn. Er bod gormod o bobl i’w henwi’n unigol, hoffem ddiolch i’n partneriaid craidd, oherwydd hebddyn nhw ni fyddem wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig yma. Diolch yn fawr i’r canlynol:
Nawr rydyn ni’n symud i’r cam cyffrous nesaf ar gyfer Student Space. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn datblygu mwy o gynnwys ac yn comisiynu gwasanaethau ychwanegol yn seiliedig ar wrando ar fyfyrwyr a chymunedau addysg uwch. Hefyd byddwn yn lansio adran sicrwydd ansawdd ar y platfform, gan gasglu mwy fyth o opsiynau cefnogi i un lle. Os ydych chi mewn sefydliad sydd eisoes yn darparu gwasanaethau defnyddiol, diogel a pherthnasol i fyfyrwyr, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich comisiynu i gyflwyno cefnogaeth gynhwysol sy’n ymateb i anghenion a phrofiadau amrywiol y gymuned o fyfyrwyr, cofiwch gadw llygad am ein galwad comisiynu a sicrwydd ansawdd yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn olaf, yn ogystal â gweithio’n galed ochr yn ochr â’n rhwydwaith cynyddol o bartneriaid i hybu Student Space, fe fyddwn ni’n rhannu mwy o ddata a gwybodaeth gyda’r sector ehangach a’r gymuned, er mwyn i ni allu dysgu gyda’n gilydd i gyd. Beth allwch chi ei wneud i helpu? Byddem wir yn gwerthfawrogi eich help i ledaenu’r gair am Student Space yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod. Gall un person wneud gwahaniaeth i fywyd myfyriwr. Os ydych chi’n fyfyriwr gyda ffrind sy’n cael amser caled, yn rhiant sy’n sylweddoli bod ei blentyn yn nerfus am fynd yn ôl ar y campws, neu’n academydd neu’n addysgwr sydd eisiau cefnogi eich grŵp blwyddyn, gobeithio y byddwch yn teimlo bod Student Space yn adnodd gwerthfawr. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd hyd yma, ond mae llawer mwy i ddod – felly cofiwch gofrestru ar gyfer y diweddariadau e-bost i rannu’r datblygiadau cyffrous gyda ni. I weld Student Space ewch i studentspace.org.uk Mwy o wybodaeth yn y Cwestiynau Cyffredin yn Student Space.
0 Comments
Your comment will be posted after it is approved.
Leave a Reply. |
Latest news
August 2024
|