Today we are proud to launch the Student Space platform, developed to support students in navigating university life during the coronavirus pandemic.
With A-Level results day (Thursday 13 August) marking a challenging turning point in a student’s academic calendar, the new programme will provide a raft of support designed specifically for students, at all stages of their higher education journey. The Universities Minister announced at the end of June that Student Minds would oversee the 6-month programme, which is funded by the Office for Students (OfS) and Higher Education Funding Council Wales (HefCW). It’s fair to say that the last seven weeks have flown by! We’re delighted that thanks to an immense amount of collaboration, plenty of hard work and much creative problem solving, the web platform is now live and available to each of the 2.3 million students studying on a Higher Education programme across England and Wales. What’s currently on Student Space? Student Space is here to make it easier for students to find the support that they need during the coronavirus pandemic, featuring trusted information, online tools and resources to support students wherever they are with their wellbeing and studies. Explore the site for guidance on learning online, handling bereavement and making friends remotely - provided in both English and Welsh. You can access the services we have commissioned for students who may be feeling overwhelmed or distressed, including a helpline and text support as well as a directory signposting students to services at their place of study. These resources will grow and be enhanced to meet emerging student needs in the months ahead. Thank you to all of our collaborators Student Space is the result of a lot of hard work and collaboration between a number of organisations over the last few weeks. We’d like to express our gratitude to the hundreds of people that have already engaged with us on this programme and played their part in helping us get here. While there are too many people to thank individually, we’d like to thank our core partners, without whom we would not have delivered this significant milestone. Thank you to:
So, what comes next? We now move into the next exciting phase for Student Space. In the next few weeks we will develop more content and commission additional services based on listening to students and higher education communities.We will also launch a quality-assured section of the platform, curating even more support options into one place. If you’re at an organisation that already provides useful, safe and relevant services for students, or are interested in being commissioned to deliver inclusive support that is responsive to the diverse needs and experiences of the student community, do keep your eyes peeled for our commissioning and quality assurance call in the next few weeks. Finally, as well as working hard along with our growing network of partners to promote Student Space, we’ll start sharing more data and insights outwards with the wider sector and community so we can all learn together. What can you do to help? We’d really appreciate your help to spread the word about Student Space in the coming weeks and months. One person can be the difference in a student’s life. Whether you’re a student with a friend who’s having a hard time, a parent who realises their child is nervous about going back to campus, or an academic or educator aiming to support your year group, we hope that you’ll find Student Space to be a valuable resource. We’re really proud of what we’ve achieved together so far, but there’s much more to come - so please do sign up for regular email updates to share in the exciting developments. To access Student Space visit studentspace.org.uk and find more FAQ’s on Student Space. Also, find our Welsh translation of this news piece.
1 Comment
Heddiw rydyn ni’n falch o lansio platfform Student Space, sydd wedi’i ddatblygu i gefnogi myfyrwyr i fyw eu bywydau yn y brifysgol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Gyda diwrnod canlyniadau Safon Uwch (dydd Iau 13 Awst) yn drobwynt heriol ar galendr academaidd myfyrwyr, bydd y rhaglen newydd yn darparu cefnogaeth amrywiol sydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr, ym mhob cam o’u siwrnai addysg uwch. Cyhoeddodd y Gweinidog Prifysgolion ddiwedd mis Mehefin y byddai Student Minds yn goruchwylio’r rhaglen 6 mis, sy’n cael ei chyllido gan Office for Students (OfS) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’n deg dweud bod y saith wythnos ddiwethaf wedi hedfan heibio! Diolch i gydweithredu aruthrol, llawer iawn o waith caled, a digon o ddatrys problemau yn greadigol, rydyn ni’n hynod falch bod y platfform ar y we yn fyw nawr ac ar gael i bob un o’r 2.3 miliwn o fyfyrwyr sy’n astudio ar raglenni Addysg Uwch ledled Cymru a Lloegr. Beth sy’n rhan o Student Space ar hyn o bryd? Nod Student Space yw gwneud bywyd yn haws i fyfyrwyr ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnyn nhw ei hangen yn ystod pandemig y coronafeirws, gyda gwybodaeth ddibynadwy, adnoddau ar-lein ac adnoddau i gefnogi myfyrwyr ble bynnag maen nhw gyda’u llesiant a’u hastudiaethau. Edrychwch ar y safle am gyfarwyddyd ar ddysgu ar-lein, delio â phrofedigaeth a gwneud ffrindiau o bell – sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u comisiynu ar gyfer myfyrwyr sy’n teimlo’n ofidus neu dan bwysau efallai, gan gynnwys llinell gymorth dros y ffôn a chefnogaeth drwy negeseuon testun, a hefyd mynegai sy’n cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau yn eu man astudio. Bydd yr adnoddau hyn yn cynyddu ac yn cael eu gwella i ddiwallu anghenion myfyrwyr fel maen nhw’n datblygu yn ystod y misoedd sydd i ddod. Diolch i bawb sydd wedi cydweithio gyda ni Mae Student Space yn ganlyniad llawer o waith caled a chydweithredu rhwng nifer o sefydliadau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hoffem fynegi ein diolch i’r cannoedd o bobl sydd wedi gweithio gyda ni eisoes ar y rhaglen yma a chwarae eu rhan yn y gwaith o’n helpu ni i gyflawni hyn. Er bod gormod o bobl i’w henwi’n unigol, hoffem ddiolch i’n partneriaid craidd, oherwydd hebddyn nhw ni fyddem wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig yma. Diolch yn fawr i’r canlynol:
Nawr rydyn ni’n symud i’r cam cyffrous nesaf ar gyfer Student Space. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn datblygu mwy o gynnwys ac yn comisiynu gwasanaethau ychwanegol yn seiliedig ar wrando ar fyfyrwyr a chymunedau addysg uwch. Hefyd byddwn yn lansio adran sicrwydd ansawdd ar y platfform, gan gasglu mwy fyth o opsiynau cefnogi i un lle. Os ydych chi mewn sefydliad sydd eisoes yn darparu gwasanaethau defnyddiol, diogel a pherthnasol i fyfyrwyr, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich comisiynu i gyflwyno cefnogaeth gynhwysol sy’n ymateb i anghenion a phrofiadau amrywiol y gymuned o fyfyrwyr, cofiwch gadw llygad am ein galwad comisiynu a sicrwydd ansawdd yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn olaf, yn ogystal â gweithio’n galed ochr yn ochr â’n rhwydwaith cynyddol o bartneriaid i hybu Student Space, fe fyddwn ni’n rhannu mwy o ddata a gwybodaeth gyda’r sector ehangach a’r gymuned, er mwyn i ni allu dysgu gyda’n gilydd i gyd. Beth allwch chi ei wneud i helpu? Byddem wir yn gwerthfawrogi eich help i ledaenu’r gair am Student Space yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod. Gall un person wneud gwahaniaeth i fywyd myfyriwr. Os ydych chi’n fyfyriwr gyda ffrind sy’n cael amser caled, yn rhiant sy’n sylweddoli bod ei blentyn yn nerfus am fynd yn ôl ar y campws, neu’n academydd neu’n addysgwr sydd eisiau cefnogi eich grŵp blwyddyn, gobeithio y byddwch yn teimlo bod Student Space yn adnodd gwerthfawr. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd hyd yma, ond mae llawer mwy i ddod – felly cofiwch gofrestru ar gyfer y diweddariadau e-bost i rannu’r datblygiadau cyffrous gyda ni. I weld Student Space ewch i studentspace.org.uk Mwy o wybodaeth yn y Cwestiynau Cyffredin yn Student Space. |
Latest news
January 2025
|