Mae Student Space yma i aros gyda chyllid tair blynedd i gefnogi myfyrwyr i ymdopi ag ansicrwydd bywyd prifysgol.
Mae’n bleser gennym rannu ein bod wedi derbyn ymrwymiad ariannu tair blynedd o £262,500 y flwyddyn gan Office for Students a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ymestyn darpariaeth ein hadnodd cymorth ar-lein, Student Space. Daw ein cyhoeddiad ariannu wrth i adroddiad diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) ddatgan bod iechyd meddwl myfyrwyr yn dal i fod yn ‘her sylweddol’ a bod tua thraean o fyfyrwyr sy’n ystyried gadael prifysgol yn nodi iechyd emosiynol neu feddyliol fel y prif reswm. Mae Student Space, a lansiwyd yn Awst 2020 fel ymateb i effaith y pandemig ar fyfyrwyr y DU, yn darparu cymorth ar-lein arbenigol a chyngor lles i fyfyrwyr sydd efallai'n teimlo'n bryderus am eu hastudiaethau, am berthnasoedd neu am unrhyw agwedd o fywyd prifysgol. Rydym yn ddiolchgar am y cyllid ychwanegol i’n galluogi ni i newid y cymorth o fod yn ymateb i Covid-19 i fod yn lle hanfodol i fyfyrwyr fynd i’w cefnogi trwy ansicrwydd bywyd fel myfyriwr. Wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â myfyrwyr, darparwyr gwasanaethau, gweithwyr addysg uwch proffesiynol ac ymchwilwyr, mae Student Space ar hyn o bryd yn cynnwys nifer o elfennau cymorth gan gynnwys cyngor a gwybodaeth, straeon myfyrwyr, gwasanaethau cymorth uniongyrchol (o linellau ffôn i negeseuon testun i wasanaethau cefnogi cyfoedion) a chyfeirio at wasanaethau prifysgol ac undeb myfyrwyr. Hefyd, i gydnabod y ffaith y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar grwpiau o fyfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd, mae cefnogaeth wedi'i theilwra wedi’i chreu hefyd. Hyd yn hyn, mae cannoedd o fyfyrwyr wedi defnyddio Student Space, ac mae grwpiau ffocws a gynhaliwyd gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl wedi canfod bod myfyrwyr yn ystyried y cynnwys fel cynnwys ‘defnyddiol iawn’, ‘cyfoes’ a ‘dilys’. Dywedodd Rosie Tressler, Prif Swyddog Gweithredol Student Minds: “Drwy Student Space rydyn ni wedi cyrraedd mwy na 300,000 o bobl hyd yma gan ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl ddigidol a theilwredig. Mae'n glir o ymchwil diweddar i iechyd meddwl a lles myfyrwyr bod y pandemig wedi tynnu sylw at angen brys a phenodol am fwy o gymorth gydag iechyd meddwl i fyfyrwyr. Er hyn mae myfyrwyr yn parhau i gael anawsterau, gyda llawer yn teimlo'n unig a thua thraean yn ystyried gadael y brifysgol yn gyfan gwbl. Rydym yn croesawu'r cymorth parhaus gan yr Adran Addysg a Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i fod ag uchelgais i wella ein gwasanaethau, gan dderbyn cyllid i sicrhau bod Student Space yn parhau i gyrraedd anghenion amrywiol y boblogaeth o fyfyrwyr Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i ddathlu'r newyddion gwych hwn. Edrychwn ymlaen at gefnogi mwy o fyfyrwyr trwy Student Space yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu unrhyw adlewyrchu i’w rannu, e-bostiwch [email protected].
0 Comments
Your comment will be posted after it is approved.
Leave a Reply. |
Latest news
August 2024
|